Arolwg Pobl Ifanc

MM slash DD slash YYYY
MM slash DD slash YYYY
Eich enw:

Darllenwch y cwestiynau isod a dewiswch y radd yr ydych yn teimlo ein bod yn perfformio, bydd hyn yn ein helpu i wella a chodi'r safonau.

1 = Anfoddhaol 2 = Gwael 3 = Digonol 4 = Da 5 = Da iawn 6 = Ardderchog

Adran 1. Pa mor dda ydyn ni'n cefnogi eich lles?

a. Rydw i’n meddu ar yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnaf am y gwasanaeth ac mae wedi’i rannu mewn ffordd sy’n ddealladwy imi.
b. Rydw i’n derbyn cymorth i gyflawni’r pethau hynny sy’n fy ngwneud i’n hapus.
c. Rydw i’n teimlo’n ddiogel.
d. Rwy'n teimlo'n rhan o'r gymuned rwy'n byw ynddi.

Adran 2. Pa mor dda ydym ni am gynnig gofal a chymorth sy’n bodloni eich anghenion?

a. Rydw i’n derbyn cymorth i gyflawni fy nodau.
b. Rydw i ynghlwm am unrhyw benderfyniadau am fy ngofal a chymorth.
c. Rydw i’n derbyn gofal a chymorth o safon dda.
d. Rydw i’n derbyn cymorth i gymryd risgiau a byw’r bywyd rydw i’n dymuno’i fyw.
e. Gallaf fanteisio ar wasanaethau iechyd pan fo’u hangen arna i.
f. Mae’r staff sy’n cynnig cymorth imi yn lân ac yn creu argraff dda.
g. Rydw i ynghlwm cymaint â hoffwn fod gyda fy meddyginiaeth, a phan fo’r gwasanaeth yn ei reoli, maen nhw’n gwneud hynny mewn ffordd ddiogel a chymwys.
h. Pan fydda i’n derbyn prydau, maen nhw’n rai rydw i’n eu mwynhau ac maen nhw o safon dda.
i. Rydw i’n teimlo fod yna ddigon o gyfarpar, deunyddiau ac adnoddau eraill.

Adran 3. Pa mor dda ydym ni am arwain a rheoli?

a. Rydw i’n teimlo fod ansawdd yn flaenoriaeth i’r gwasanaeth.
b. Mae’r gwasanaeth yn meithrin diwylliant sy’n hyrwyddo urddas, parch a thrugaredd.
c. Mae gen i ddigon o staff bob amser i gynnig cymorth pan fo’i angen arna i.
d. Pan rydw i’n dymuno gwneud hynny, mae modd imi fy hun reoli fy arian yn gyfan gwbl.
e. Rydw i’n cael fy annog i gwyno pan nad ydw i’n hapus.
f. Rydw i’n gwybod pwy sy’n rheoli’r gwasanaeth ac maen nhw’n gwybod pwy ydw i.

Adran 4. Pan fo ni’n gyfrifol, pa mor braf ydy’r amgylchedd rydych chi’n byw ynddo?

a. Mae gen i ddigon o le i fyw’r bywyd dw i’n dymuno’i fyw.
b. Pan fo’n briodol, mae yna bob amser gyfarpar ar gael i fy helpu i fod mor annibynnol â phosibl.
c. Rydw i’n teimlo caiff yr amgylchedd ei gynnal a’i gadw’n dda.
d. Rydw i’n teimlo bod yr amgylchedd yn ddiogel a dydw i ddim mewn peryg o niweidio fy hun.
e. Gallaf ddefnyddio’r ffón y rhyngrwyd, Wi-Fi a thechnoleg eraill i fy helpu i gyfathrebu gyda phobl sy’n bwysig imi.

Adran 5. Parchu fy Mhreifatrwydd

Fe gewch chi gwblhau’r arolwg hwn yn ddi-enw a’i ddychwelyd yn anhysbys os hoffech chi.
Fe wnaeth aelod o staff fy helpu i gwblhau’r arolwg hwn
Mae rhywun wedi dweud wrtha i bod modd imi ddychwelyd yr arolwg hwn yn anhysbys.
Mae rhywun wedi dangos imi sut i ddychwelyd yr arolwg hwn yn anhysbys.
Rydw i’n fodlon bod modd imi ddychwelyd yr arolwg hwn yn anhysbys os ydw i’n dymuno gwneud hynny.