Arolwg Staff

MM slash DD slash YYYY
MM slash DD slash YYYY
Eich enw:

Darllenwch y cwestiynau isod a dewiswch y radd yr ydych yn teimlo ein bod yn perfformio, bydd hyn yn ein helpu i wella a chodi'r safonau.

1 = Anfoddhaol 2 = Gwael 3 = Digonol 4 = Da 5 = Da iawn 6 = Ardderchog

Adran 1. Pa mor dda mae’r mudiad yn gofalu am lesiant y person?

a. Mae’r Unigolion yn derbyn yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw mewn ffordd sy’n ddealladwy iddyn nhw.
b. Mae Unigolion yn derbyn cymorth sy’n fodd iddyn nhw gyflawni’r pethau hynny sy’n eu gwneud nhw’n hapus.
c. Mae Unigolion yn dweud wrthych chi eu bod yn teimlo’n ddiogel.
d. Mae Unigolion yn dweud wrthych chi eu bod yn teimlo’n rhan o’r gymuned maen nhw’n byw ynddi.

Adran 2. Pa mor dda ydy’r mudiad am gynnig gofal a chymorth sy’n bodloni anghenion y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth?

a. Caiff Unigolion eu helpu i gyflawni eu nodau personol eu hunain.
b. Mae Unigolion ynghlwm ag unrhyw benderfyniadau am eu gofal a’u cymorth.
c. Mae’r bobl sy’n bwysig i’r Unigolion ynghlwm â’r penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw.
d. Mae’r gofal a’r cymorth mae’r Unigolion yn ei dderbyn o safon uchel bob amser.
e. Caiff Unigolion eu cefnogi i gymryd risgiau priodol a byw’r bywyd maen nhw’n dymuno’i fyw.
f. Caiff gwasanaethau iechyd eu cynnig bob amser pan fo’u hangen nhw ar yr Unigolyn.
g. Mae cyfle i Unigolion fod ynghlwm cymaint â hoffan nhw fod gyda’u meddyginiaeth eu hunain. Pan gaiff ei reoli are u rhan, fe gaiff ei wneud mewn ffordd ddiogel a chymwys.
h. Pan gaiff prydau eu darparu, maen nhw’n brydau y mae’r Unigolion yn eu mwynhau ac maen nhw o safon dda.
i. Rydw i’n teimlo fod yna ddigon o gyfarpar, deunyddiau ac adnoddau eraill ar gael bob amser i sicrhau bob modd imi gynnig gofal a chymorth o safon.

Adran 3. Pa mor dda gaiff y gwasanaeth ei arwain a’i reoli?

a. Rydw i’n teimlo fod ansawdd yn flaenoriaeth i Bluestones Medical Complex Care LTD.
b. Maen nhw’n cynnig goruchwyliaeth er mwyn fy nghefnogi i gyflawni fy swydd yn well.
c. Maen nhw’n cynnig hyfforddiant perthnasol. Mae’n sicrhau fy mod yn meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth i allu cefnogi Unigolion yn effeithiol
d. Rydw i’n teimlo bod Bluestones Medical Complex Care LTD yn fy ngwerthfawrogi.
e. Caiff fy nghyfraniad i Bluestones Medical Complex Care LTD ei gydnabod a’i glodfori’n briodol.
f. Yn fy marn i, mae Bluestones Medical Complex Care LTD yn meithrin diwylliant sy’n hyrwyddo urddas, parch a thrugaredd.
g. Mae yna ddigon o staff bob amser i gefnogi’r Unigolion pan fo’n briodol.
h. Os ydy’r Unigolion yn gallu, ac yn dymuno cymryd cyfrifoldeb drosto, fe gân nhw eu cefnogi i reoli eu harian a’u meddyginiaeth yn gyfan gwbl.
i. Gallaf gwyno pan nad ydw i’n fodlon.
j. Rydw i’n gwybod pwy sy’n rheoli’r gwasanaeth, ac maen nhw’n ymdrechu’n briodol i ddod i fy adnabod i.
k. Rydw i’n cael fy annog i roi gwybod am arferion gwael ac rydw i’n teimlo y buasai Bluestones Medical Complex Care LTD yn fy nghefnogi pe bawn i’n gwneud hynny.

Adran 4. Pan fo’r gwasanaeth yn gyfrifol amdano, pa mor braf ydy’r amgylchedd?

a. Mae digonedd o le i’r Unigolion allu byw’r bywyd maen nhw’n dymuno’i fyw.
b. Mae cyfarpar ar gael bob amser, pan fo’i angen ar yr Unigolyn, i’w helpu i fod mor annibynnol â phosibl.
c. Rydw i’n teimlo caiff yr amgylchedd ei gynnal a’i gadw’n dda.
d. Gallan nhw fwynhau’r mannau yn yr awyr agored, gan gynnwys gerddi, os ydyn nhw ar gael.
e. Rydw i’n teimlo bod yr amgylchedd yn ddiogel, ac mae’r risgiau imi a’r Unigolion wedi’u rheoli’n dda.
f. Rydw i’n teimlo caiff y dechnoleg ei defnyddio’n effeithiol i fy helpu i gyflawni fy swydd yn dda.

Adran 5. Parchu fy Mhreifatrwydd

Fe gewch chi gwblhau’r arolwg hwn yn ddi-enw a’i ddychwelyd yn anhysbys os hoffech chi.
Fe wnaeth aelod o staff fy helpu i gwblhau’r arolwg hwn
Mae rhywun wedi dweud wrtha i bod modd imi ddychwelyd yr arolwg hwn yn anhysbys.
Mae rhywun wedi dangos imi sut i ddychwelyd yr arolwg hwn yn anhysbys.
Rydw i’n fodlon bod modd imi ddychwelyd yr arolwg hwn yn anhysbys os ydw i’n dymuno gwneud hynny.