Arolwg Gweithwyr Proffesiynol Allanol

MM slash DD slash YYYY
MM slash DD slash YYYY
Eich enw:

Darllenwch y cwestiynau isod a dewiswch y radd yr ydych yn teimlo ein bod yn perfformio, bydd hyn yn ein helpu i wella a chodi'r safonau.

1 = Anfoddhaol 2 = Gwael 3 = Digonol 4 = Da 5 = Da iawn 6 = Ardderchog

Adran 1. Pa mor dda mae’r mudiad yn gofalu am lesiant y rheiny sy’n defnyddio’r gwasanaethau?

a. Rydw i’n teimlo fod yr Unigolyn yn derbyn yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw mewn ffordd sy’n ddealladwy iddyn nhw.
b. Yn fy marn i, mae’r Unigolyn yn derbyn cymorth sy’n sicrhau eu bod yn fodlon.
c. Mae’r Unigolion yn dweud wrthych chi eu bod yn teimlo’n ddiogel.
d. Rydw i’n teimlo fod yr Unigolion wedi’u parchu ac fe gaiff eu preifatrwydd a’u hurddas eu meithrin.

Adran 2. Pa mor dda ydy’r mudiad am gynnig gofal a chymorth sy’n bodloni anghenion y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau?

a. Caiff Unigolion eu cefnogi i gyflawni eu nodau personol eu hunain.
b. Mae Unigolion ynghlwm ag unrhyw benderfyniadau am eu gofal a’u cymorth.
c. Mae’r bobl sy’n bwysig i’r Unigolion ynghlwm â’r penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw.
d. Mae’r gofal a’r cymorth mae’r Unigolion yn ei dderbyn o safon uchel bob amser.
e. Caiff Unigolion eu cefnogi i gymryd risgiau priodol a byw’r bywyd maen nhw’n dymuno’i fyw.
f. Caiff gwasanaethau iechyd eu cynnig yn brydlon pan fo’u hangen nhw ar yr Unigolyn.
g. Mae’r cofnodion sy’n ymwneud â gofal a chymorth yn gyfredol, eglur a chyson.
h. Mae cyfle i Unigolion fod ynghlwm cymaint â hoffan nhw fod gyda’u gofal eu hunain, a pan gaiff ei reoli ar eu rhan fe gaiff ei gyflawni mewn ffordd ddiogel a chymwys.
i. Pan gaiff prydau eu darparu, maen nhw’n brydau y mae’r Unigolion yn eu mwynhau ac maen nhw o safon dda.
j. Rydw i’n teimlo fod yna ddigon o gyfarpar, deunyddiau ac adnoddau bob amser i sicrhau caiff gofal a chymorth o safon ei gynnig.

Adran 3. Pa mor dda gaiff y gwasanaeth ei arwain a’i reoli?

a. Rydw i’n teimlo fod ansawdd yn flaenoriaeth i’r gwasanaeth.
b. Mae’r staff yn derbyn hyfforddiant perthnasol sy’n sicrhau eu bod yn meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth i allu cefnogi Unigolion yn effeithiol.
c. Mae Bluestones Medical Complex Care yn cynnal perthynas agored a thryloyw gyda mi.
d. Caiff fy nghyfraniad tuag at lesiant Unigolion ei gydnabod a’i werthfawrogi gan Bluestones Medical Complex Care LTD.
e. Yn fy marn i, mae Bluestones Medical Complex Care yn meithrin diwylliant sy’n hyrwyddo urddas, parch a thrugaredd.
f. Mae yna ddigon o staff bob amser i gefnogi’r Unigolion pan fo’n briodol.
g. Rydw i’n teimlo y gallaf gwyno pan rydw i’n anfodlon.
h. Rydw i’n gwybod pwy sy’n rheoli’r gwasanaeth, ac maen nhw’n ymdrechu’n briodol i ddod i fy adnabod i.
i. Rydw i’n cael fy annog i roi gwybod am arferion gwael ac rydw i’n teimlo y buasai Bluestones Medical Complex Care LTD yn mynd i’r afael â’r broblem pe bawn i’n gwneud hynny.

Adran 4. Pan fo’r gwasanaeth yn gyfrifol amdano, pa mor braf ydy’r amgylchedd?

a. Mae cyfarpar ar gael bob amser, pan fo’i angen ar yr Unigolyn, i’w helpu i fod mor annibynnol â phosibl.
b. Rydw i’n teimlo caiff yr amgylchedd ei gynnal a’i gadw’n dda.
c. Rydw i’n teimlo bod yr amgylchedd yn ddiogel a chaiff y risgiau pan rydw i’n ymweld â’r risgiau i Unigolion eu rheoli’n effeithiol.
d. Rydw i’n teimlo caiff technoleg ei ddefnyddio’n effeithiol i wella bywydau’r Unigolion.

Adran 5. Parchu fy Mhreifatrwydd

Fe gewch chi gwblhau’r arolwg hwn yn ddi-enw a’i ddychwelyd yn anhysbys os hoffech chi.
Fe wnaeth aelod o staff fy helpu i gwblhau’r arolwg hwn
Mae rhywun wedi dweud wrtha i bod modd imi ddychwelyd yr arolwg hwn yn anhysbys.
Mae rhywun wedi dangos imi sut i ddychwelyd yr arolwg hwn yn anhysbys.
Rydw i’n fodlon bod modd imi ddychwelyd yr arolwg hwn yn anhysbys os ydw i’n dymuno gwneud hynny.