Arolwg Cyfeillion, Perthnasau ac Eiriolwyr

MM slash DD slash YYYY
MM slash DD slash YYYY
Eich enw:

Darllenwch y cwestiynau isod a dewiswch y radd yr ydych yn teimlo ein bod yn perfformio, bydd hyn yn ein helpu i wella a chodi'r safonau.

1 = Anfoddhaol 2 = Gwael 3 = Digonol 4 = Da 5 = Da iawn 6 = Ardderchog

Adran 1. Pa mor dda ydym ni am ofalu am lesiant y person?

a. Mae gan y person sy’n bwysig yn meddu ar yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw ac mae wedi’i rannu mewn ffordd sy’n ddealladwy iddyn nhw.
b. Maen nhw’n derbyn cymorth i gyflawni’r pethau hynny sy’n eu gwneud nhw’n hapus.
c. Maen nhw’n teimlo’n ddiogel.
d. Maen nhw’n teimlo fel eu bod yn dal yn rhan o’r gymuned maen nhw’n byw ynddi.

Adran 2. Pa mor dda ydym ni am gynnig gofal a chymorth sy’n bodloni anghenion y person sy’n bwysig ichi?

a. Maen nhw’n derbyn cymorth i allu cyflawni eu nodau personol eu hunain.
b. Maen nhw ynghlwm ag unrhyw benderfyniadau am eu gofal a’u cymorth.
c. Rydych chi ynghlwm â phenderfyniadau am y person, pan maen nhw’n gofyn ichi fod neu phan fo’n fuddiol iddyn nhw.
d. Mae’r gofal a’r cymorth maen nhw’n ei dderbyn o safon.
e. Fe gân nhw eu cefnogi i gymryd risgiau priodol a byw’r bywyd maen nhw’n dymuno’i fyw.
f. Maen nhw’n derbyn gwasanaethau iechyd pan fo’u hangen arnyn nhw.
g. Mae’r staff rydych chi’n eu gweld yn lân ac yn creu argraff dda.
h. Mae’r person sy’n bwysig ichi ynghlwm cymaint â hoffan nhw fod gyda’u meddyginiaeth eu hunain. Pan fo Bluestone Medical Complex Care LTD yn ei reoli ar eu rhan, maen nhw’n gwneud hynny mewn ffordd ddiogel a chymwys.
i. Pan gaiff prydau eu darparu, maen nhw’n brydau maen nhw’n eu mwynhau ac maen nhw’n ymddangos yn brydau o safon dda.
j. Rydw i’n teimlo fod yna ddigon o gyfarpar, deunyddiau ac adnoddau bob amser i gefnogi’r person sy’n bwysig imi.

Adran 3. Pa mor dda ydym ni am arwain a rheoli?

a. Rydw i’n teimlo fod ansawdd yn flaenoriaeth i Bluestones Medical Complex Care LTD.
b. Yn fy marn i, mae Bluestones Medical Complex Care LTD yn meithrin diwylliant sy’n hyrwyddo urddas, parch a thrugaredd.
c. Mae yna ddigon o staff bob amser i gefnogi’r person sy’n bwysig imi pan fo’n briodol.
d. Os ydy’r person sy’n bwysig ichi yn gallu, ac yn dymuno cymryd cyfrifoldeb drosto, maen nhw’n rheoli eu harian eu hunain yn gyfan gwbl.
e. Gallaf gwyno pan nad ydw i’n fodlon gyda’r gwasanaeth y mae’r person sy’n bwysig imi wedi’i dderbyn.
f. Rydw i’n gwybod pwy sy’n rheoli Bluestones Medical Complex Care LTD ac maen nhw’n ymdrechu’n briodol i ddod i fy adnabod i.

Adran 4. Pan fo ni’n gyfrifol, pa mor braf ydy’r amgylchedd lle mae’r person sy’n bwysig ichi yn byw ynddo?

a. Mae ganddyn nhw ddigon o le i fyw’r bywyd maen nhw’n dymuno’i fyw.
b. Mae cyfarpar ar gael bob amser, pan fo’i angen arnyn nhw, i’w helpu i fod mor annibynnol â phosibl.
c. Rydw i’n teimlo caiff yr amgylchedd ei gynnal a’i gadw’n dda.
d. Gallan nhw fwynhau’r mannau yn yr awyr agored, gan gynnwys gerddi, os ydyn nhw ar gael.
e. Rydw i’n teimlo bod yr amgylchedd yn ddiogel a dydyn nhw ddim mewn peryg o niweidio’u hunain.
f. Gallan nhw ddefnyddio’r ffôn, y rhyngrwyd, Wi-Fi, technoleg a dulliau eraill i’w helpu i gyfathrebu a chynnal eu perthynas gyda mi.

Adran 5. Parchu fy Mhreifatrwydd

Fe gewch chi gwblhau’r arolwg hwn yn ddi-enw a’i ddychwelyd yn anhysbys os hoffech chi.
Fe wnaeth aelod o staff fy helpu i gwblhau’r arolwg hwn
Mae rhywun wedi dweud wrtha i bod modd imi ddychwelyd yr arolwg hwn yn anhysbys.
Mae rhywun wedi dangos imi sut i ddychwelyd yr arolwg hwn yn anhysbys.
Rydw i’n fodlon bod modd imi ddychwelyd yr arolwg hwn yn anhysbys os ydw i’n dymuno gwneud hynny.